English

Ar un adeg roedd yna dair tre sba Fictoraidd yng nghanolbarth Cymru – roedd ‘Llanwrtyd Wells’ yn un ohonyn nhw a deuai miloedd o ymwelwyr yma ar y tren am eu gwyliau haf ac i ‘gymryd y dyfroedd’.

Wrth grwydro o amgylch y dref fe fyddwch yn ymwybodol o’r tai tal a adeiladwyd yn ystod rhan olaf yr 1800au er mwyn lletya nifer mawr yr ymwelwyr.

Ar un adeg roedd gan Lanwrtyd 35 o siopau, dau gwrs golff, lawnt chwarae bowlio, cyrtiau tenis, pwll nofio a hyd yn oed rhedfa awyrennau – sydd bellach yn anodd ei gredu.

Beth am ymweld â’r Ganolfan Dreftadaeth a Chelfyddydau er mwyn darganfod mwy am hanes y dre a gwrando ar atgofion rhai o’r trigolion.

Mae llawer wedi mynegi eu cariad wrth sôn am yr amser a dreuliwyd yn Llanwrtyd.

Cyflwynodd cyn-ddisgyblion a ddaeth yma fel faciwis o Tsiecoslofacia ac a dderbyniodd eu haddysg yma yn ystod yr Ail Ryfel Byd y ddolen aur gyntaf i gadwyn y Maer yn rhodd i Gyngor y Dref.

Cyflwynodd cerflunydd o Gaerwrangon, a gymerodd ran yn rheolaidd mewn digwyddiadau beicio, gerflun mawr efydd o’r barcud coch, sy’n dominyddu canol y dref.

Mae Llanwrtyd wedi ei bendithio gan gymuned weithgar lle mae pob dim yn bosib a’r trigolion yn trefnu gweithgareddau bywiog fel ‘Cystadlaethau Snorclo’r Gors’, y ras ‘Dyn yn erbyn Ceffyl’a digwyddiadau eraill sydd wedi gwneud y dref yn enwog.

Wedi’i hamgylchynu gan ardaloedd o harddwch eithriadol mae’r dref yn darparu’r sylfaen delfrydol ar gyfer cerdded a beicio anturus.

P’un ai fyddwch yn dewis dod ar wyliau yma neu ymweld ag un o’r digwyddiadau, bydd eich ymweliad yn fythgofiadwy.

Yn 1998 cyflwynwyd cerflun mawr efydd o’r barcud coch, sy’n dominyddu canol y dref, gan gerflunydd o Gaerwrangon, fel arwydd o’i gariad tuag at y dre – un a fu’n cymryd rhan yn rheolaidd yn nigwyddiadau beicio Llanwrtyd.