EnglishMae’r rhain yn cynnwys:
Grwpiau Cymdeithasol i Fenywod
Mae dau grŵp yn yr ardal: Merched y Bont, grŵp sydd yn cyfarfod yn y dref a Merched Gwledig Dyffryn Irfon, grŵp sy’n cyfarfod tu allan i’r dref.
Merched y Bont
Ffurfiwyd Merched y Bont tua 1997 pan benderfynodd menywod oedd yn byw yn Llanwrtyd a’r dalgylch ffurfio cymdeithas annibynnol.
Dewiswyd ‘Merched y Bont’ fel enw ac erbyn hyn mae yna 30 o aelodau sy’n cyfarfod bob mis i fwynhau noson gymdeithasol yng nghanol eu cymuned. Cynhelir y cyfarfodydd yn Neuadd Fictoria ar yr ail nos Iau bob mis, lle ceir siaradwyr gwâdd, arddangosiadau neu weithgareddau sy’n seiliedig ar amrywiaeth o bynciau.
Bydd rhai o’r gwesteion yn siarad am faterion difrifol tra bydd eraill yn llawn hwyl ac weithiau bydd cyfle i roi cynnig ar ddysgu sgiliau newydd.
Bob mis Gorffennaf rydym yn cynnal cyfarfod awyr agored. Dros y blynyddoedd, rydym wedi ymweld ag amrywiaeth o leoedd diddorol naill ai’n lleol neu ymhellach i ffwrdd.
Ar adegau, byddwn yn cynnal digwyddiadau codi arian er budd elusennau lleol ac yn aml bydd ein siaradwyr gwadd yn rhoi eu ffioedd i elusennau o’u dewis personol.
Yn ogystal, bydd ein aelodau yn cyfrannu’n rheolaidd tuag at ddigwyddiadau yn y gymuned, er enghraifft, derbyniwn gryn ganmoliaeth am y brechdanau a baratown ar gyfer digwyddiadau megis y Ras Dyn yn erbyn Ceffyl, yn ogystal â rasys eraill a gynhelir yn y dre.
Mae ‘Merched y Bont’ yn croesawu gwragedd sydd wedi symud i’r ardal ac sydd eisiau gwneud ffrindiau newydd. Daw pob cyfarfod i ben gyda chyfle i’r aelodau fwynhau lluniaeth yng nghwmni ei gilydd.
Merched Gwledig Dyffryn Irfon
Dathlodd ‘Merched Gwledig Dyffryn Irfon’ ei 25ain penblwydd ym mis Ionawr 2019. Ffurfiwyd y grŵp yn wreiddiol i ddefnyddio Neuadd Abergwesyn a oedd newydd ei hadnewyddu ar y pryd.
Digwyddodd yr adnewyddiad hwn o ganlyniad i ymdrechion sylweddol codi arian gan y gymuned a sefydlwyd y grŵp hwn fel un o nifer o weithgareddau cymdeithasol a ddechreuwyd ar yr adeg honno.
Noddir y grŵp gan wragedd nid yn unig o Abergwesyn ond o’r ardal gyfagos hefyd.
Mae’r grŵp yn cyfarfod ar y trydydd nos Iau bob mis yn y Stafell Ddarllen yn Beulah i wrando ar amrywiaeth o siaradwyr, gwylio a chymryd rhan yng ngweithgareddau celf a chrefft, mwynhau cwis, gemau tîm neu ymweld â lleoedd yn yr awyr agored.
Yn draddodiadol, yng nghyfarfod mis Awst, cynhelir swper y cynhaeaf lle daw’r aelodau a’u gwesteion ynghyd i fwynhau swper wedi’i goginio gartref.
Ym mis Medi, cynhelir taith flynyddol boblogaidd gyda phryd blasus ar y ffordd adre ac ym mis Rhagfyr daw’r aelodau ynghyd i ddathlu adeg arbennig o’r flwyddyn sef y Nadolig.
Grŵp anffurfiol a chyfeillgar yw ‘Merched Gwledig Dyffryn Irfon’ ac estynnir croeso cynnes bob amser i aelodau newydd ac i westeion.
Clwbiau Dydd Iau
Clwb Dydd Iau Llanwrtyd
Clwb Dydd Iau Llanwrtyd Clwb cymdeithasol i bobl sydd wedi ymddeol yw Clwb Dydd Iau Llanwrtyd.
Yn 2017 bu’r Clwb yn dathlu ei benblwydd yn 40 oed ac i nodi’r achlysur cyf wynwyd tystysgrif gan y Cynghorydd Peter James (Maer y Dref) ar ran Cyngor y Dre.
Cynhelir y cyfarfodydd brynhawn dydd Iau cyntaf a’r trydydd prynhawn dydd Iau bob mis rhwng dechrau Hydref a diwedd Mai yng ngwesty’r Belle Vue.
Gwahoddir siaradwyr gwadd i’r cyfarfodydd i siarad am eu gwaith neu ddiddordebau.
Weithiau bydd aelod o’r Clwb sydd wedi bod ar wyliau yn dangos lluniau o’r daith.Mae’r cyfarfodydd yn rhoi cyfle i’r aelodau gymdeithasu a mwynhau te prynhawn.
Ddwywaith y flwyddyn, ym mis Mai a mis Rhagfyr, bydd cyfle i’r aelodau fwynhau cinio gyda’i gilydd.
Estynnir croeso cynnes i aelodau newydd yn enwedig pobl sydd wedi ymddeol ac sydd newydd symud i’r ardal.
Dyma gyfle rhagorol i gwrdd â phobl a ffrindiau newydd.
Clwb Dydd Iau Beulah
Cynhelir Clwb Dydd Iau Beulah pob pedwerydd dydd Iau yn y mis am 2.30 yn y prynhawn yn yr Ystafell
Ddarllen yn Beulah sydd gyferbyn â thafarn ‘Y Trout’.
Er mai ar gyfer pobl sydd wedi ymddeol yn bennaf yw’r Clwb, estynnir croeso i unrhywun a hoffai ddod draw i fwynhau gwrando ar siaradwr gwadd neu i gymryd rhan mewn gweithgaredd.
Ar ddiwedd y prynhawn, bydd pawb yn mwynhau te blasus, amser i sgwrsio a rhannu newyddion gyda ffrindiau hen a newydd.