Ers y flwyddyn 2000 mae seremoni gadeirio wedi digwydd lle caiff y person sydd wedi cyfansoddi’r gerdd orau ei anrhydeddu.
Cynhelir yr eisteddfod yn Neuadd Fictoria ar y pedwerydd dydd Sadwrn ym mis Medi a chaiff perfformiadau’r cystadleuwyr eu beirniadu gan feirniaid profiadol.
Yn y rhan fwyaf o’r eitemau, gall cystadleuwyr berfformio yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Trefnir yr eisteddfod gan bwyllgor ac mae’r aelodau yn ddiolchgar am gefnogaeth ffyddlon llawer o noddwyr yn ogystal â nawdd hael gan Charcroft Electronics Cyf.
Ar ddydd Mercher 12fed Awst 1863, cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yn Llanwrtyd a hynny ar ddôl .
Wedi i Neuadd Fictoria gael ei hadeiladu yn 1887 cynhaliwyd yr eisteddfod flynyddol yno fel arfer ar Ddydd Calan a hynny hyd ddechrau’r ganrif ddiwethaf.
Yn dilyn toriad yn y 1940au, adfywiwyd yr eisteddfod flynyddol ym 1951 gan Madam Carlton ac mae’r eisteddfod wedi digwydd bob blwyddyn ers hynny.
Rhwng 1957 a 1978, cynhaliwyd eisteddfod ieuenctid ym mis Gorffennaf ac eisteddfod flynyddol ym mis Awst.
Ers 1978, fodd bynnag, mae’r sesiynau ieuenctid a’r oedolion wedi cael eu cynnal ar yr un diwrnod.
Yn y bore, cynhelir cystadleuthau cerddorol, llenyddol a chelfyddydol i blant sy’n byw yn lleol tra bod cystadleuthau’r prynhawn yn agored i blant o unrhyw ardal.
Oedolion sy’n cystadlu yng nghystadleuthau’r hwyr.